Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Agenda (20) v4 |
1. Cwestiynau i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (45 munud) |
2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol (45 munud) |
3. Datganiad gan y Prif Weinidog: Comisiynydd y Gymraeg (30 munud) |
4. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad (30 munud) |
5. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
NDM4816 William Graham (Dwyrain De Cymru):
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod mwy o bobl yn cael diagnosis o ganser;
2. Yn mynegi pryder bod amseroedd aros targed ar gyfer cleifion canser yn cael eu methu; a
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu Cronfa Cyffuriau Canser Cymru.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Ym mhwynt 1, ar ôl “ganser”, rhoi “, i raddau helaeth oherwydd bod y boblogaeth hŷn yn tyfu a bod ein technegau diagnosis yn llawer gwell erbyn hyn.”
Gwelliant 2 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu pwynt 2, a rhoi yn ei le: “Yn nodi bod angen sicrhau bod amseroedd aros i rai cleifion canser yn fyrrach, ac yn cydnabod y gwaith sy’n parhau i fynd i’r afael â hyn.”
[os derbynnir gwelliant 3, bydd gwelliant 4 yn cael ei dad-ddethol] Gwelliant 3 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i lunio a gweithredu Cynllun Canser Cenedlaethol. Gwelliant 4 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu pwynt 3, a rhoi yn ei le: “Yn nodi bod pobl yng Nghymru yn gallu cael cyffuriau canser heb fodel Cronfa Cyffuriau Canser Lloegr.”
|
6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
NDM4817 William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod bod y system gynllunio yn hanfodol ar gyfer economi gref, amgylchedd deniadol a chynaliadwy a democratiaeth lwyddiannus; a
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) Cyflwyno Bil Cynllunio Cymru yn gynharach na’r hyn a nodir yn y Datganiad Deddfwriaethol;
b) Cynyddu hyblygrwydd system gynllunio Cymru;
c) Symleiddio canllawiau cynllunio presennol Cymru;
d) Cynyddu cyfraniad cymunedau lleol at y system cynllunio.
Gellir gweld copi o’r Datganiad Deddfwriaethol drwy ddilyn y linc a ganlyn:
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg) Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le: Yn nodi Datganiad Ysgrifenedig Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy i’r Cabinet, a anfonwyd drwy e-bost at Aelodau’r Cynulliad ar 30 Medi, yn sefydlu panel cynghori annibynnol i roi cyngor ar sut y dylid cynnal gwasanaethau cynllunio yn y dyfodol, a fydd yn llywio’r Papur Gwyn Cynllunio a’r Mesur dilynol. Gwelliant 2 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu y dylai adolygiad Llywodraeth Cymru o’r system gynllunio hefyd ystyried Cynllun Gofodol Cymru a’r system cynlluniau datblygu lleol.
Gellir gweld Cynllun Gofodol Cymru drwy ddilyn y linc a ganlyn:
http://wales.gov.uk/location/strategy/spatial/documents/?skip=1&lang=cy |
7. Dadl Plaid Cymru (60 munud)
NDM4818 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gresynu at ddiffyg manylion a thargedau ystyrlon yn y Rhaglen Lywodraethu: a
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod ei Rhaglen yn canolbwyntio ar y sialensiau y bydd yr economi yn eu hwynebu dros yr ychydig flynyddoedd nesaf.
Gellir gweld y Rhaglen Lywodraethu drwy ddilyn y linc a ganlyn:
http://wales.gov.uk/about/programmeforgovernment/?skip=1&lang=cy
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu pwynt 1) a rhoi yn ei le:
"Yn nodi’r Rhaglen Lywodraethu a’r angen i allu mesur sut y gweithredir polisi’r Llywodraeth”; a
Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu fel pwynt 1 newydd ac ail-rifo’r pwyntiau sy'n dilyn:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddiwygio ei Rhaglen Lywodraethu i fynd i’r afael â’r sialensiau economaidd a chymdeithasol sy’n wynebu pobl Cymru.
Gwelliant 3 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu nad yw Llywodraeth Cymru wedi cyflawni addewid y Prif Weinidog ar gyfer rhaglen lywodraethu sydd â thargedau mesuradwy.
Gwelliant 4 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno rhaglen lywodraethu ddiwygiedig sydd â thargedau pendant a mesuradwy ac amserlen ar gyfer eu cyflawni.
Gwelliant 5 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ailgyhoeddi ei Rhaglen Lywodraethu er mwyn cynnwys targedau a chanlyniadau mesuradwy.
Gwelliant 6 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu wrth fethiant Llywodraeth Cymru i bennu, yn y Rhaglen Lywodraethu, fesurau i godi perfformiad Gwerth Ychwanegol Crynswth Cymru erbyn 2015.
Gwelliant 7 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu y dylai’r Rhaglen Lywodraethu gynnwys rhaglen gynhwysfawr o ryddhad ardrethi busnes sef yr ymyriad polisi gorau i hybu cyflogaeth a buddsoddiad yn y sector preifat ac y gellid cyflwyno ymyriad o’r fath ar unwaith heb yr angen am adolygiad pellach. |
Cyfnod pleidleisio |
8. Dadl Fer (30 munud)
NDM4815 Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd):
Diwygo Amodau Deiliadaeth y Sector Rhentu Preifat |
Bydd y Cynulliad yn cwrdd eto yn y Cyfarfod Llawn am 13:30 Dydd Mawrth, 11 Hydref 2011